Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Hydref 2013

 

 


Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer y Bil Gofal

1.     Ar 24 Medi 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer y Bil Gofal.

2.    Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 31 Hydref 2013.